Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Ionawr 2020
Amser:
08.30 -
09.05
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Siân Gwenllian Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Roedd Sian Gwenllian yn driprwyo ar ran Rhun ap Iorwerth, a disgwylir iddi ymuno'n ffurfiol â'r Pwyllgor Busnes cyn y cyfarfod nesaf. Diolchodd y Llywydd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad fel aelod o'r pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Gofynnodd Caroline Jones a fydd datganiad gan y llywodraeth ar y coronafirws. Dywedodd y Trefnydd wrthi fod y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, ac y bydd yn diweddaru'r Cynulliad pe bai unrhyw newidiadau.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2020
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol (45 munud)
· Dadl: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (60 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 26 Chwefror 2020 -
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddethol y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 5 Chwefror:
NNDM7239 David Melding
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau bod gan:
a) bob adeilad preswyl newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod;
b) bob adeilad preswyl newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio, lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant o gyfanswm y lleoedd parcio.
Cefnogir gan:
Angela Burns
Dai Lloyd
David J Rowlands
Huw Irranca-Davies
Jenny Rathbone
Mark Isherwood
Mohammad Asghar
Rhun ap Iorwerth
Russell George
Vikki Howells
Cytunodd Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Cynnig at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ddydd Iau 12 Mawrth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd y dylai'r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n nodi fformiwla d'Hondt ar gyfer dyrannu lleoedd pwyllgor pe na bai'r Cynulliad yn gallu cytuno ar gynnig ar aelodaeth gan fwyafrif o ddwy ran o dair, gael ei integreiddio yn y Rheolau Sefydlog. Byddai hyn yn caniatáu parhau i ddefnyddio fformiwla d'Hondt fel dull wrth gefn.
Trafododd y Rheolwyr Busnes ystod o faterion yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau a chadeiryddion pwyllgorau, yn enwedig gweithdrefnau ynghylch sut mae unrhyw newidiadau i'r cydbwysedd rhwng grwpiau yn ystod Cynulliad yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad pwyllgorau a chydbwysedd cadeiriau a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur yn ystyried y materion hyn yn fwy manwl.
Aelodaeth Plaid Cymru ar Bwyllgorau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwr Busnes y bydd Sian Gwenllian yn ymddiswyddo fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad ac yn cymryd lle Rhun ap Iorwerth fel aelod o'r Pwyllgor Busnes. Bydd Rhun ap Iorwerth yn ei dro yn cael ei enwebu'n Gomisiynydd. Mae hyn yn rhan o ad-drefnu ehangach o fewn Plaid Cymru, sy'n cynnwys newidiadau i'w lleoedd ar bwyllgorau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd y cynigion angenrheidiol i wneud y newidiadau hyn brynhawn dydd Mawrth.
Cwestiynau wedi'u grwpio
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd mai eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod unrhyw Aelodau sy'n gofyn cwestiynau atodol yn cael eu gwneud yn ymwybodol pan fydd cwestiynau'n cael eu grwpio.